
Mae Ysgol Uwchradd Glan Clwyd yn ysgol gyfun, gymunedol, gyfrwng Cymraeg ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed.
Ymhle?
Lleolir yr ysgol yn ninas Llanelwy, yn Sir Ddinbych, yn agos at yr Eglwys Gadeiriol. Symudodd i’w chartref presennol yn 1969. Yma, ar safle eang, agored â golygfeydd braf o Ddyffryn a Bryniau Clwyd saif adeiladau’r ysgol - yn gyfuniad o’r hen a’r modern yn gwasanaethu cymuned yr ysgol a'r gymuned leol.